
Hyrwyddwyr Gwirfoddol
Rydyn ni'n chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu ni i hyrwyddo gweithdai, digwyddiadau a hyfforddiant i gefnogi ysgolion a grwpiau cymunedol i ddysgu am, edrych ar a rhannu agweddau ar dreftadaeth heddwch Cymru.
Mwy
Gwirfoddolwyr Adnoddau Dysgu
Rydyn ni'n chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu i ymchwilio hanesion cudd o dreftadaeth heddwch Cymru dros y can mlynedd diwethaf a’u troi yn adnoddau dysgu hwylus yn gysylltiedig â chwricwlwm Cymru.
Gwirfoddoli Adegaucyfedol
Gwirfoddolwyr Gydsafiad Rhyngwladol
Cefndir
Mae prosiect Cymru dros Heddwch yn gofyn: “Yn ystod y can mlynedd ers y Rhyfel Byd Cyntaf, sut mae Cymru wedi cyfrannu at yr ymgais i sicrhau heddwch?” Fel rhan o’n gwaith i ateb y cwestiwn hwnnw, rydym eisiau edrych ar y cysylltiadau sydd wedi bod rhwng Cymru a gwledydd eraill. Er enghraifft, y cysylltiadau cryf rhwng Cymru a Lesotho, Mbale, Uganda a Somaliland; yn ogystal â chysylltiadau y byddwch, o bosib, yn eu darganfod wrth ichi ddatblygu yn eich rôl.
Y rôl
Helpu grwpiau cymunedol i ddarganfod eu hanes cudd eu hunain o gydgefnogaeth ryngwladol. Mae hyn yn cynnwys:
- Esbonio’r prosiect, a’r hyn y gallwn ei gynnig, i grwpiau
- Helpu grwpiau i:
- Wybod pa fath o storïau a hanesion sydd o ddiddordeb i’r prosiect
- Llwytho a thagio arteffactau hanesyddol (cofnodion cyfarfodydd, cyhoeddiadau, lluniau digwyddiadau) ar Casgliad y Werin Cymru
- Cofnodi eu storïau yn ysgrifenedig, ar fideo, ar lafar neu mewn ffurfiau eraill
- Rhannu eu storïau ar y cyfryngau cymdeithasol a’u rhwydweithiau
- Rhannu eu sgiliau ag eraill yn eu cymuned/rhwydwaith sy’n dymuno rhannu rhagor o storïau
Arddangosfa Cymru dros Heddwch – Gwirfoddolwr digwyddiadau
Beth fyddwch yn ei wneud?
Bydd gennym ystod o dasgau lle bydd angen gwirfoddolwyr arnom, cyn ac yn ystod y digwyddiadau, yn cynnwys marchnata a gweinyddu’r digwyddiad, cyfarch mynychwyr yn y digwyddiadau, cynnal arolygon, tynnu lluniau, golygu a lanlwytho lluniau, gwneud storïau fideo, gweithgareddau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod y digwyddiadau, ac ysgrifennu erthyglau a newyddion wedi’r digwyddiadau.
Pwy fyddai’n addas ar gyfer y rôl hon?
Byddai’r rôl hon yn gweddu unrhyw un sydd â diddordeb mewn treftadaeth a/neu datblygu rhyngwladol, ac awydd i gyflwyno themâu allweddol i gynulleidfaoedd amrywiol. Byddai agwedd ymarferol at gynllunio digwyddiad yn ddefnyddiol!
Rhai o’r manteision
Byddwch yn magu profiad ac yn ehangu eich sgiliau cynllunio, gweinyddu digwyddiad a sgiliau cyfryngau cymdeithasol, a darperir hyfforddiant unigol yn y meysydd hyn lle bo angen. Byddwch yn cael y profiad i gyfranogi mewn prosiect treftadaeth Cymru eang gyffrous a chyfle i gydweithio â nifer o sefydliadau partner.
Ysgrifenwyr Blog:
Ydych chi eisiau cyrraedd cynulleidfa ehangach gyda’ch ysgrifennu neu eich barn, neu a ydych eisiau rhoi cynnig ar ysgrifennu blog am y tro cyntaf? Cyfrannwch at ein blog gyda’ch barn am heddwch a gwrthdaro heddiw, adeiladwyr heddwch lleol, ymchwil wreiddiol yn ymwneud â Chymru a heddwch, ac adroddiadau am ddigwyddiadau ac arddangosiadau. Edrychwch ar y dudalen Lleisiau WCIA i weld amrywiaeth o flogiau sy’n trafod materion rhyngwladol.
Golygydd(ion) blog
Mae safle blog WCIA ar WordPress, yn cael ei redeg a’i arwain yn gyfan gwbl gan wirfoddolwyr. Rydym yn edrych am olygydd blog newydd i Leisiau WCIA, a fydd hefyd yn cefnogi blog y prosiect Cymru dros Heddwch. Bydd y gwirfoddolwr hwn yn:
- Edrych am flogwyr newydd ac yn eu hannog i ysgrifennu am destunau priodol
- Dod o hyd i flogwyr i fynd i ddigwyddiadau Cymru dros Heddwch ac ysgrifennu amdanynt
- Prawfddarllen a golygu blogiau a rhoi adborth i ysgrifennwr yn ôl y gofyn
- Uwchlwytho blogiau gyda theitlau, tagiau a lluniau
- Cadw cofnod o fanylion cyswllt blogwyr a phriodoli eu cyfraniadau yn briodol. Bydd y gwirfoddolwr yn cael hyfforddiant a chefnogaeth WordPress.
Gall y golygydd blog weithio yn swyddfeydd WCIA neu o bell. Mae’n gyfle gwych i ddysgu/gwella sgiliau ysgrifennu blog, golygu, WordPress a chydlynu gwirfoddolwyr.
Gwirfoddolwyr swyddfa
Disgrifiad o'r rôl: Rydyn ni'n chwilio am wirfoddolwr i'n helpu ni i gyflawni tasgau gweinyddol yn y swyddfa gyda thîm Cymru dros Heddwch. Byddwch chi'n gweithio yn y Deml Heddwch yng Nghaerdydd.
Ymrwymiad Amser: Mae'n gyfle hyblyg, ond byddai'n addas i rywun sy'n gallu bod ar gael am o leiaf 3 awr yr wythnos dros gyfnod o 2-3 mis.
Beth fyddwch chi'n ei wneud: Bydd cyfle i gynorthwyo'r tîm gydag amrywiaeth o dasgau gan gynnwys creu a diweddaru taenlenni, defnyddio Eventbrite i hysbysebu digwyddiadau a diweddaru taenlenni ar faint o bobl sy'n dod i ddigwyddiadau, diweddaru ein rhestr bostio gan ddefnyddio Mailchimp, a chreu systemau ar gyfer trefnu adnoddau'r swyddfa. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil ac i gynorthwyo mewn digwyddiadau sy'n cael eu trefnu gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru a Chymru dros Heddwch.
Pwy fyddai'n gweddu i'r rôl yma? Byddai'r cyfle yma yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Cymru, mewn treftadaeth heddwch neu faterion rhyngwladol, neu sydd am fod yn rhan o brosiect ledled Cymru a datblygu eu sgiliau gweinyddol mewn corff trydydd sector. Dylech feddu ar sgiliau technoleg gwybodaeth sylfaenol a gallu defnyddio rhaglenni Microsoft Office. Bydd hyfforddiant yn cael ei roi ar sut i ddefnyddio pecynnau technoleg gwybodaeth eraill yn ôl yr angen.
Rhai o'r buddion: Bydd hwn yn gyfle i chi ddatblygu a gwella eich sgiliau gweinyddol wrth weithio mewn swyddfa ar brosiect prysur. Fel rhan o brosiect arloesol sy'n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, bydd cyfle gennych i ddod i gysylltiad â sefydliadau partner eraill ac i ddatblygu eich CV. Gallwn ad-dalu eich costau teithio a chinio pan fyddwch chi'n gwirfoddoli gyda ni, fel sydd wedi'i bennu yn ein polisi treuliau.
Gwirfoddolwyr ymchwil heddwch
Cyfle delfrydol i ddatblygu sgiliau ymchwil ymarferol ac i gyfrannu at dreftadaeth heddwch Cymru! Bydd y gwirfoddolwyr ymchwil heddwch yn datblygu arolygon a chyfweliadau i gasglu’r farn bresennol am heddwch a gwrthdaro trwy gydol y prosiect Cymru dros Heddwch. Bydd yr arolwg a’r cwestiynau yn cael eu teilwra i gael eu defnyddio yn ystod ein digwyddiadau, ac ar gyfer eu cylchredeg yn electronig i greu darlun o’r farn am heddwch a gwrthdaro yng Nghymru heddiw. Byddai’r rôl hon yn addas i wirfoddolwr gyda sgiliau ymchwil a fyddai’n hoffi cyfle i roi eu sgiliau ar waith.
Gwirfoddolwyr Treftadaeth Y Deml Heddwch
Disgrifiad o'r rôl: Rydyn ni'n chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu ni i gatalogio, digideiddio a rhannu straeon o'r llyfrau, papurau a lluniau sydd yn Siambr y Cyngor yn y Deml Heddwch. Ar hyn o bryd, nid oes modd gweld y dogfennau yma, sy'n adrodd hanes y sefydliadau pwysig sydd yn y Deml Heddwch, fel Undeb Cynghrair y Cenhedloedd yng Nghymru a Chanolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Rydyn ni'n chwilio am wirfoddolwyr i'n helpu ni i ddod â hanes rhyngwladoliaeth yng Nghymru i lygad y cyhoedd.
Ymrwymiad Amser: Yn ddelfrydol, byddech yn gallu gwirfoddoli am o leiaf 3 awr yr wythnos.
Beth fyddwch chi'n ei wneud: Mae'r rôl yma'n cynnwys cofrestru llyfrau mewn system gatalogio a thrin a chofnodi deunydd o'r archif. Mae cyfle hefyd i ddysgu sut i ddigideiddio dogfennau pwysig a'u rhyddhau i'r cyhoedd drwy Gasgliad y Werin, yn ogystal â dysgu sut i gynhyrchu straeon digidol yn seiliedig ar rai o'r deunyddiau y byddwch chi'n eu darganfod.
Pwy fyddai'n gweddu i'r rôl yma? Byddai'r cyfle yma yn ddelfrydol i fyfyrwyr hanes neu wyddorau cymdeithasol, neu unrhyw un sydd am ddysgu rhagor am gatalogio a digideiddio dogfennau ac sydd efallai'n ystyried dechrau gyrfa yn y maes. Byddai hefyd yn addas ar gyfer pobl sydd â diddordeb yn un o'r meysydd canlynol: rôl Cymru mewn rhyngwladoliaeth a heddwch, hanes Cymru yn yr ugeinfed ganrif.
Rhai o'r buddion: Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn yr holl sgiliau sy'n angenrheidiol er mwyn cyflawni'r tasgau uchod, a bydd cyfle i wirfoddolwyr ddatblygu sgiliau sy'n ddymunol iawn yn y sector treftadaeth.